Tad pob trugaredd Arglwydd byw

1,(2),3,4.
(Ar ddydd diolchgarwch)
Tad pob trugaredd, Arglwydd byw,
  Yw nawdd trueiniaid gael:
Pa beth yw dyn i ti, O Dduw,
  Pan gofit ef mor hael?

Er bygwth barn
    am feiau'n gwlad,
  Ti roist ymwared clau;
O bydded yr ymweliad rhad
  Yn arbed i'n gwellhau.

Mae'th drugareddau yn ddi ball
  Yn llanw'r ddaear faith;
Nid oes na dyn na dawn a all
  Eu dweud na'u rhifo chwaith.

Yr hwn sy'n gwrandaw gweddi dyn
  Annheilwng îs y nef,
Yr hwn sy'n para byth yr un,
  Clodforwch, molwch Ef.
Hymnau Newyddion (Morris Davies 1796-1876)

Tonau [MC 8686]:
Cambridge New (John Randall 1717-99)
St Stephen (William Jones 1726-1800)

gwelir:
  Ni chaiff fod eisiau byth na thrai
  O Arglwydd Iôr nawdd dynolryw

(On a day of thanksgiving)
The Father of all mercy, living Lord,
  Is the refuge of wretches to get:
What is man to thee, O God,
  When thou remembrest him so generously?

Despite the threat of judgment
    for the faults of our land,
  Thou gavest swift deliverance;
O may the gracious visitation
  Save to make us better.

Thy mercies are unfailingly
  Flooding the vast earth;
There is neither man nor talent that can
  Tell them nor count them either.

He who is hearing the prayer of unworthy
  Man under heaven,
He who is enduring forever the same,
  Extol ye, praise ye Him.
tr. 2019 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~